Trade Democracy in Wales | Democratiaeth Masnach Yng Nghymru
Type: Campaign briefings
Date: 22 May 2018
Campaigns: Trade
How post‐Brexit trade deals could undermine Wales’ food, health service and devolved powers, and how to make sure they don’t
Summary of the briefing:
- Modern trade deals go well beyond tariffs. They can affect our food standards, our public services, our environment and our democratic ability to regulate big business.
- Post-Brexit trade deals could, if not negotiated democratically, have a profoundly negative impact on Wales – undermining farmers, the NHS, education, culture, the environment and local government here.
- The US is demanding access to British markets for ‘chlorine chicken’, hormone-fed meat, and less protection for local products like Anglesey sea salt and Welsh lamb. It is also likely to demand a ‘corporate court’ system under which Wales could be sued, in secret special courts, by US-based multinational corporations.
- The devolved powers of Wales could be undermined by trade deals. Liberalisation of public services like the NHS, higher costs of medicines, or the importation of low grade food can be agreed in a trade deals without the consent of the Government or Assembly in Wales.
- In fact, legislation being discussed in Westminster – the Trade Bill – gives no right for the public, MPs or the Welsh Government or Assembly to play any meaningful role in trade policy. Although this Bill only covers ‘transitional deals’, this sets a dangerous precedent and represents a huge democratic deficit which must be challenged.
- The British government is already engaged in secretive post-Brexit trade talks with a wide range of countries including the United States, Saudi Arabia and Turkey.
- Unless the Trade Bill is amended to give Wales a say in trade deals, we urge the Welsh Government to withhold consent from this bill.
Sut y gallai cytundebau masnach ôl‐Brexit danseilio bwyd, gwasanaeth iechyd a phwerau datganoledig Cymru, a sut i wneud yn siŵr nad ydynt yn gwneud hynny
Crynodeb o’r rhagwybodaeth hon:
- Mae cytundebau masnach modern yn mynd ymhell y tu hwnt i dariffau. Gallant effeithio ar ein safonau bwyd, ein gwasanaethau cyhoeddus, ein hamgylchedd a’n gallu democrataidd i reoleiddio busnesau mawr.
- Gallai cytundebau masnach ôl-Brexit, os na chânt eu cyd-drafod yn ddemocrataidd, gael effaith negyddol dwys ar Gymru – gan danseilio ffermwyr, y GIG, addysg, diwylliant, yr amgylchedd a llywodraeth leol.
- Mae’r UDA yn mynnu cael mynediad i’r farchnad ym Mhrydain ar gyfer ‘cyw iâr clorin’, cig wedi’i fwydo â hormonau, a llai o amddiffyniad ar gyfer cynhyrchion lleol fel Halen Môn a chig oen Cymreig. Mae hefyd yn debygol o fynnu system ‘llys corfforaethol’ lle gallai Cymru gael ei herlyn, mewn llysoedd cyfrinachol arbennig, gan gorfforaethau rhyngwladol sydd â’u pencadlys yn yr UD.
- Gallai cytundebau masnach danseilio pwerau datganoledig Cymru. Gallai llacio’r rheolau sy’n perthyn i wasanaethau cyhoeddus fel y GIG, pris uwch am feddyginiaethau, neu fewnforio bwyd o safon isel, fod yn rhan o gytundebau masnach a drefnir heb ganiatâd Llywodraeth na Chynulliad Cymru.
- Mewn gwirionedd, nid yw deddfwriaeth sy’n cael ei thrafod yn San Steffan – y Bil Masnach – yn rhoi unrhyw hawl i’r cyhoedd, Aelodau Seneddol, Llywodraeth Cymru na’r Cynulliad i chwarae unrhyw rôl ystyrlon mewn polisi masnach. Er nad yw’r Bil hwn ond yn ymdrin â ‘chytundebau trosiannol’ mae’n gosod cynsail peryglus ac mae’n enghraifft o ddiffyg democratiaeth enfawr y mae’n rhaid ei herio.
- Mae llywodraeth Prydain eisoes yn cynnal trafodaethau masnach cyfrinachol ôl-Brexit gydag amryw o wledydd, gan gynnwys yr Unol Daleithiau, Saudi Arabia a Thwrci.
- Oni bai bod y Bil Masnach yn cael ei ddiwygio er mwyn rhoi cyfle i Gymru gael llais mewn cytundebau masnach, rydym yn annog Llywodraeth Cymru i wrthod rhoi cydsyniad i’r bil hwn.